Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Medi 2020
Amser:
08.59 -
09.49
------
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood Aled Ap Neill |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y tri newid i fusnes dydd Mawrth: ychwanegu datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; gohirio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) (Caerffili) 2020; a thynnu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 yn ôl.
Egwyl / newid
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gael un egwyl dydd Mawrth a dau egwyl dydd Mercher.
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y gloch yn cael ei chanu ar ddiwedd pob egwyl, i roi rhybudd y gall Aelodau ddod i mewn i'r Siambr a bod busnes ar fin ailddechrau.
Terfyn amser Datganiadau 90 Eiliad
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes mai'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno datganiadau 90 eiliad fydd 10am – yr un peth â chwestiynau amserol. Os nad yw pob slot ar gyfer y diwrnod hwnnw yn cael eu llenwi, gall y Llywydd ddefnyddio ei disgresiwn i dderbyn cais hwyr.
Gwelliannau i gynigion
Yn y sefyllfa bresennol ac o ystyried hyd y dyddiau busnes, dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn defnyddio ei phŵer i ddad-ddethol gwelliannau pan fydd o’r farn bod hynny’n briodol at ddibenion cynnal busnes y Senedd yn gywir.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr amserlen ddiwygiedig, a ddosbarthwyd y bore yma, a oedd yn ychwanegu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronfeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Chasnewydd ac ati) 2020 i 29 Medi.
3.3 Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Gofynnodd y Llywydd i'r Ysgrifenyddiaeth am bapur ar sut y gellid defnyddio'r amser sydd ar gael ar gyfer busnes dydd Mercher yn fwy effeithlon. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r busnes ar gyfer 7 Hydref er mwyn lleihau hyd cyffredinol y cyfarfod.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau busnes a ganlyn yn yr amserlen:
Dydd Mercher 14 Hydref 2020 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Brexit (60 munud)
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i'w drafod ar 30 Medi:
NNDM7384 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y niwed y mae tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan o dlodi;
b) bod y pandemig wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd;
c) yr oedd twf y DU, hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl;
d) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac, yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl;
e) y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi;
f) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu cymdogion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i sefydlu treial incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru;
b) i lobïo Llywodraeth y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.
Cefnogwyr:
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Alun Davies (Blaenau Gwent)
Bethan Sayed (Gorllewin De Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Helen Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin Cymru
Huw Irranca–Davies (Ogwr)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Leanne Wood (Rhondda)
Mick Antoniw (Pontypridd)
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Rhianon Passmore (Islwyn)
Sian Gwenllian (Arfon)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 14 Hydref:
NNDM7304
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Vikki Howells (Cwm Cynon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod effaith ddinistriol endometriosis sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru.
2. Yn nodi ei bod yn cymryd, ar gyfartaledd, wyth mlynedd a 26 apwyntiad meddyg teulu i gael atgyfeiriad at arbenigwr endometriosis.
3. Yn galw am fwy o ymchwil i achosion endometriosis a thriniaethau posibl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif arferol a phryd i ofyn am gyngor meddygol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mwy o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi fel y gall pob menyw gael triniaeth arbenigol yng Nghymru.
Cefnogwyr:
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
4 Deddfwriaeth
4.1 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) ( Rhondda Cynon Taf) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.2 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) (Blaenau Gwent, Casnewydd, Merthyr Tudful a Phen-y-Bont ar Ogwr etc.) 2020
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i bennu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ddydd Llun 28 Medi i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau.
4.3 Y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol
Nododd y Pwyllgor Busnes y sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a dyddiad arfaethedig yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Tân a Diogelwch.
Cytunodd y Pwyllgor i beidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Pysgodfeydd i graffu arno.
5 Pwyllgorau
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu'r ddwy ddadl yn nhymor yr hydref ac i gael ei arwain gan y Pwyllgor Deisebau ar amseriad y dadleuon. Awgrymodd y Rheolwyr Busnes y gallai'r Pwyllgor Deisebau ystyried adolygu nifer y llofnodion sy'n ofynnol ar gyfer dadl.
6.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl a arweinir gan bwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ym mis Tachwedd.
6.3 Ceisiadau o ran amserlen pwyllgorau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r ceisiadau canlynol gan bwyllgorau am slotiau cyfarfod yn ystod wythnos olaf yr hanner tymor:
· Cyfarfod bore dydd Mercher 21 Hydref i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer sesiwn Weinidogol olaf gyda'r Gweinidog Addysg mewn perthynas â'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).
· Cadw slot i’r Pwyllgor Cyllid os bydd ei angen i gynnal cyfarfod y mae'n ceisio ei drefnu gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys.
· Cynnal cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a drefnwyd yn wythnos 10 ddydd Gwener 27 Tachwedd yn hytrach na dydd Llun 23 Tachwedd, gan fod y pwyllgor yn cynnal trafodion Cyfnod Dau ar y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru).
Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i adolygu amseriad slot prynhawn Llun i 13:30 – 17:00.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r dull arfaethedig o’r modd y mae’r ysgrifenyddiaeth yn casglu ceisiadau pwyllgorau i newidiadau i'r amserlen a chyfarfodydd wythnos gwarchodedig, a chyflwyno'r rhain mewn un papur.
7 Papurau i'w nodi
7.1 Llythyr gan y Trefnydd a’r Cwnsler Cyffredinol:
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
7.2 Llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.
Unrhyw Fater Arall
Aelodaeth Pwyllgorau
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i ethol Caroline Jones yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ddydd Mercher, ac i gyflwyno cynnig i ethol aelodau i bwyllgor y Llywydd.